Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig

 

 

Dyddiad:       Dydd Iau 16 Ionawr 2020

 

Amser:           09:15 – 10:45

 

Teitl:               Papur tystiolaeth – Y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2020-21 Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

 

 

Diben

 

1.            Mae’r papur hwn yn darparu gwybodaeth i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar gynigion MEG (Prif Grŵp Gwariant) yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a amlinellir yng Nghyllideb Ddrafft 2020-21, a gyhoeddwyd ar 19 Hydref. Mae hefyd yn darparu diweddariad ar feysydd o ddiddordeb penodol i’r Pwyllgor.

 

 

Cefndir

 

2.            Mae cyllideb ddrafft 2020-21 yn darparu cynllun blwyddyn ar gyfer buddsoddiad refeniw a blwyddyn ola’r tair blynedd ar gyfer buddsoddiad cyfalaf. Mae’r tablau isod yn rhoi trosolwg o’r MEG Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a gyhoeddwyd yn y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2020-21.

 

3.            Caiff ffigurau’r gyllideb ddrafft eu crynhoi fel a ganlyn:

 

Tabl 1. Crynodeb o newidiadau i MEG Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig (EERA) Cyllideb Ddrafft 2020-21

 

MEG Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

 

 

£m

 

Cyllideb

 

Cyllideb ddrafft 2020-21

£m

 

atodol

 

Crynodeb ar gyfer EPRA

gyntaf

Newidiadau

 

2019-20

 

 

£m

 

DEL Adnoddau

189.704

5.391

195.095

DEL Cyfalaf

87.061

43.931

130.992

Cyfanswm DEL

276.765

49.322

326.087

 

 

 

 

AME Adnoddau

2.400

 

2.400

Cyfanswm AME

2.400

 

2.400


 

 

4.            Er mwyn gwneud cymhariaeth gyfatebol o gyllidebau 2019-20 ar lefel atodol gyntaf â’r cyllidebau drafft ar gyfer 2020-21, bydd y tabl atodedig sy’n dangos y Llinell Wariant yn y Gyllideb (BEL) yn dangos yr holl symudiadau o MEG i MEG ac o fewn MEG.

 

Cyllideb Ddrafft 2020-21 – Adnoddau

 

5.            Cyflwynodd Cabinet mis Hydref a Thachwedd ddyraniadau dangosol ar lefel Prif Grŵp Gwariant, gan ganolbwyntio ar gyllid ychwanegol ar draws yr wyth maes blaenoriaeth trawsbynciol a chyllid mewn perthynas â'r swm canlyniadol negyddol o ganlyniad i'r addasiad ardrethi annomestig (NDR), gyda'r nod o gyhoeddi'r gyllideb ddrafft ar 19 Tachwedd a'r gyllideb derfynol ar 4 Chwefror 2020.

 

6.            Mae'r dyraniadau dangosol yn dangos y bu cynnydd net o £5.391 miliwn (2.8%) yng nghyllidebau adnoddau EERA. Mae hyn yn cynnwys gostyngiadau i'r MEG mewn perthynas â chyllid afreolaidd y flwyddyn flaenorol.

 

7.            Dangosir y newidiadau refeniw yn y tabl isod sy’n cysoni cyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2019-20 gyda’r gyllideb ddrafft gyfredol ar gyfer 2020-21.

 

Tabl 2. Crynodeb o'r newidiadau i gyllideb adnoddau 2020-21

 

Cyllideb Ddrafft 2020-21

£m

Cyllideb Agoriadol (Cyllideb Atodol Gyntaf 2019-

20)

189.704

Cyllid pwysau o gronfeydd wrth gefn canolog

5.182

Cyllid ar gyfer y Rhaglen Rheoli Risgiau Arfordirol

2.600

Addasiad NDR – cyllid wrth gefn

2.000

Dyraniadau trawsbynciol

1.900

Cronfa Bontio’r UE

0.170

Llai symudiadau o MEG EERA

 

Cyllid Pontio’r UE 2019-20

(2.310)

Diwedd Cynllun Cymorth i Newydd-ddyfodiaid Plaid Cymru

(4.000)

Trosglwyddo Rhaglen Rheoli Risgiau Arfordirol i'r

RSG

(0.151)

Cyllideb Ddrafft Sylfaenol ar gyfer 2019-20

195.095

 

 

 

8.            Mae'r dyraniadau adnoddau dangosol yn cynnwys cyllid o £2.6 miliwn o gronfeydd wrth gefn a throsglwyddiad o £0.151 miliwn i'r MEG Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â'r Rhaglen Rheoli Risgiau Arfordirol


(CRMP). Bydd y rhaglen hon yn sicrhau gwerth £150 miliwn o fuddsoddiad mewn gwaith rheoli risgiau arfordirol ledled Cymru, gyda Llywodraeth Cymru yn cyfrannu £112.5 miliwn o gyllid refeniw i gefnogi hyn. Bydd y rhaglen yn defnyddio model Menter Benthyca Llywodraeth Leol i ariannu'r cam adeiladu.

 

9.            Dyrannwyd £0.170 miliwn inni ar gyfer cyllid Cronfa Bontio’r UE mewn perthynas â brand cynaliadwy Cymru a chymhwyso trwyddedu a chaniatáu a chaledwedd, sef blwyddyn olaf Cronfa Bontio'r UE. Bu gostyngiad o £2.310 miliwn hefyd ar gyfer prosiectau pontio'r UE a gwblhawyd yn 2019-20 nad oes angen eu cyllido bellach.

 

10.    Yn olaf, bu gostyngiad o £4 miliwn yng nghyllid y Cynllun Cymorth i Newydd-ddyfodiaid, a gafodd ei ariannu dros y ddwy flynedd rhwng 2018- 19 a 2019-20 fel rhan o gytundeb cyllideb Plaid Cymru.

 

11.    Rwyf wedi ystyried y dyraniadau ychwanegol a gyhoeddwyd yng Nghabinet mis Hydref yn ogystal â'r dyraniadau ychwanegol ar gyfer Blaenoriaethau Trawsbynciol a'r Dyraniadau NDR o'r cronfeydd wrth gefn yng Nghabinet mis Tachwedd, ac ar ôl adolygu fy meysydd dan bwysau a’m blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf, rwyf wedi penderfynu dyrannu i'r cyllidebau canlynol.

 

Tabl 3. Dyrannu refeniw ychwanegol o'r Cabinet 14 Hydref a 4 Tach

 

 

BEL

Cyllideb Ddrafft 2020-21

£m

Ffynhonnell cyllid

 

 

Cyllid ychwanegol – Cabinet 14 Hydref

 

5.182

Blaenoriaethau Trawsbynciol - Cabinet 4 Tachwedd

 

1.900

Dyraniadau NDR – Cabinet 4 Tachwedd

 

2.000

 

 

 

Cymhwyso'r cronfeydd

 

 

Datblygu cronfa ddata amlrywogaeth

2682

1.800

Iawndal TB - gostyngiad yn incwm TB yr UE

2269

1.500

Cyllid Cyfalaf Cefnogi Bioamrywiaeth

2825

0.739

Cyllid ar gyfer Diwygio Rheoli Tir

2829

0.400

Cronfa Bontio’r UE ar gyfer Pysgodfeydd 19-20

2870

0.743

 

 

5.182

 

 

 

Ynni yn y Cartref a mynd i'r afael â Thlodi Tanwydd

1270

0.400

Cymorth Refeniw Coedwigoedd Cenedlaethol

2827

0.500

Bioamrywiaeth, Mawndiroedd a Phriddoedd eraill

2825

0.500

Cynllun Peilot y Tasglu Bioamrywiaeth

2825

0.500

 

 

1.900


 

 

 

Datgarboneiddio

3770

1.250

Taliadau Difa TB – pwysau costau iawndal

2272

0.750

 

 

2.000

 

Cyllideb Ddrafft 2019-20 - Cyfalaf

 

12.    Dyrannodd Llywodraeth Cymru mwyafrif y cyllidebau cyfalaf ar ddechrau’r cyfnod cynllunio yn ystod 2017-18, gan ddarparu sicrwydd a hyblygrwydd hirdymor i reoli buddsoddiad y Llywodraeth yn unol â blaenoriaethau hyd at ac yn cynnwys 2020/21. Yn achos EERA, bu cynnydd net yn y gyllideb gyfalaf o £43.931 miliwn yn 2020/21 o gyllideb atodol gyntaf 2019-2021, a chynnydd o £53.385 miliwn o'r cynlluniau Cyfalaf Dangosol ar gyfer 2020- 21 a amlinellwyd yn ystod 2017-18.

 

13.    Mae buddsoddi cyfalaf mewn seilwaith yn allweddol o ran cyflawni'r gostyngiadau carbon sydd eu hangen. Roedd effaith garbon y cynigion buddsoddi yn ystyriaeth hollbwysig wrth ddyrannu cyllid ar gyfer buddsoddiad cyfalaf newydd law yn llaw â'r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru, ac rwy'n falch o fod wedi sicrhau buddsoddiad cyfalaf sylweddol ar draws meysydd Datgarboneiddio a Bioamrywiaeth.

 

Tabl 4. Dyraniadau cyfalaf ychwanegol 2020-21

Crynodeb o’r newidiadau i’r gyllideb cyfalaf

Cyllideb ddrafft 2020-21

£m

 

BEL

Cyllideb Cyfalaf Dangosol Agoriadol 2020-21

77.607

 

 

 

 

Maes blaenoriaeth Ansawdd Aer

Ansawdd aer – Caerdydd a Chaerffili

14.280

2817

 

Ardal flaenoriaeth bioamrywiaeth

Coedwig Genedlaethol

4.500

2825

Rhwydwaith Natura 2000 – gwella a chynnal a chadw

15.000

2825

Rhaglen Mwyngloddiau Metel

4.500

2230

Adfer Mawndiroedd Cenedlaethol

1.000

2825

Cronfa Twf Amgylcheddol

5.000

2825

Gwelliannau i ansawdd dŵr

5.000

2230

 

 

 

Amaethyddiaeth

 

 

Cronfa Ddata Amlrywogaeth Cymru

2.100

2862

Datblygu TGCh ar gyfer y cyllid sy’n disodli’r PAC

1.505

2789

 

 

 

Pontio'r UE

 

 

Cronfa Bontio’r UE – Brandiau cynaliadwy

0.100

2970

Cronfa Bontio’r UE – Deunyddiau pacio pren sy’n

0.150

2827


Crynodeb o’r newidiadau i’r gyllideb cyfalaf

Cyllideb ddrafft 2020-21

£m

 

BEL

Cyllideb Cyfalaf Dangosol Agoriadol 2020-21

77.607

 

 

 

 

cydymffurfio

 

 

Cronfa Bontio’r UE – Trwyddedu a chaniatáu

0.250

2451

 

 

 

Cyllideb Gyfalaf Ddrafft 2020-21 – ar y diwedd

130.992

 

 

Cyllideb Ddrafft ar gyfer 2019-20 – Symudiadau o fewn y Prif Grŵp Gwariant (MEG)

 

14.    Fel rhan o’m hadolygiad cyllidebol, rwyf wedi ailddyrannu a blaenoriaethu nifer o gyllidebau refeniw i sicrhau bod gennyf y cydbwysedd cywir o fuddsoddiad ar draws fy mhortffolio er mwyn cefnogi blaenoriaethau’r Strategaeth Genedlaethol “Ffyniant i Bawb”. Mae’r manylion ar gael isod.

 

15.    Yn achos gweddill y symudiadau o fewn y MEG, cafodd cyllidebau eu hailalinio er mwyn gwella tryloywder, rhesymoli llawer o gyllidebau llai er mwyn gwella hyblygrwydd neu os oedd cyfrifoldebau wedi’u  symud o fewn y portffolio.

 

Tabl 5. Symudiadau cyllideb o fewn y MEG

O BEL

I BEL

£m

Esboniad

Tystiolaeth a Chymorth Amgylcheddol 2818

Strategaeth a Chysylltiadau

Llywodraethol 2816

0.696

Trosglwyddo cyfrifoldebau ac alinio’r gyllideb yn well

Cyfoeth Naturiol Cymru 2451

Ansawdd Amgylchedd Lleol

2191

0.200

Trosglwyddo cyfrifoldebau ac alinio’r gyllideb yn well

Gwasanaethau Iechyd Planhigion Eraill 2821

Amgylchedd Naturiol 2825

0.052

Trosglwyddo cyfrifoldebau ac alinio’r gyllideb yn well

Gweithredu Deddfwriaeth a Pholisi

2865

Gwasanaethau Cynghori

Technegol

0.183

Trosglwyddo cyfrifoldebau ac alinio’r gyllideb yn well

Strategaeth Amaethyddiaeth 2829

EiD Cymru 2862

0.020

Helpu i ddatblygu Cronfa Ddata Amlrywogaeth Cymru

Fframwaith Awdurdodau Lleol 2831

EiD Cymru 2862

0.400

Helpu i ddatblygu’r Gronfa Ddata Amlrywogaeth

 

 

Rhaglen Lywodraethu – Ffyniant i Bawb

 

16.    Rwyf wedi ystyried y paratoadau cyllidebol drwy edrych ar y dystiolaeth o anghenion a’r pwysau ar ein meysydd blaenoriaeth yn ein Strategaeth Genedlaethol – Ffyniant i Bawb yn cynnwys Datgarboneiddio. Mae’r dull gweithredu hwn yn cael ei adlewyrchu yn fy mhenderfyniad i fuddsoddi yn


ein gwasanaethau cyhoeddus a rhaglenni ataliol a’u diogelu, a chydbwyso anghenion y tymor byr a’r tymor hir.

 

17.    Rydym yn defnyddio'r gyllideb hon er mwyn annog pob cymuned yng Nghymru i chwarae ei rhan wrth ymateb i'r argyfwng hinsawdd sydd o’n blaenau. Bydd angen mwy na dim ond gwariant y Llywodraeth i fynd i'r afael â’r argyfwng hwn. Felly, nid ein mentrau sy'n cael y buddsoddiad ariannol uchaf yw’r rhai mwyaf grymus o reidrwydd, ond y rhai sy'n rhoi'r cyfle i bobl yng Nghymru roi o'u hamser a'u hegni i weithredu'n uniongyrchol i fynd i'r afael â newid hinsawdd.

 

18.    Y perygl mwyaf i'n cymunedau yn sgil y newid yn yr hinsawdd yw'r stormydd, llifogydd ac erydu arfordirol cynyddol ddifrifol sydd eisoes yn digwydd yma yng Nghymru. Yn y gyllideb hon, rydym yn ymrwymo £64 miliwn i amddiffyn cymunedau Cymru rhag effeithiau mwyaf difrifol ac uniongyrchol newid hinsawdd, fel rhan o fuddsoddiad cyfalaf gwerth £140 miliwn yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Hefyd, rydym yn helpu i godi £150 miliwn pellach dros dair blynedd mewn cydweithrediad ag Awdurdodau Lleol Cymru i amddiffyn 18,000 a mwy o gartrefi fel rhan o'n Rhaglen Rheoli Risgiau Arfordirol.

 

19.    Y perygl mwyaf i gyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru yn sgil newid hinsawdd yw'r effaith ar gostau ynni cartref. Yn y gyllideb hon, rydym yn ymrwymo £36 miliwn, gan gynnwys £8 miliwn o gyllid yr Undeb Ewropeaidd, i ariannu mesurau arbed ynni ar gyfer 25,000 o aelwydydd. Bydd y buddsoddiad hwn yn rhoi blaenoriaeth i'r rhai mwyaf anghenus gan gynnwys pobl sy'n byw gyda chyflyrau anadlol a chylchrediad y gwaed. Mae’n wariant ataliol pwysig, gydag ymchwil yn dangos bod ein gwaith yn lleihau'r galw ar y GIG drwy amddiffyn unigolion agored i niwed rhag lleithder ac oerfel. Ers 2010, rydym wedi buddsoddi dros £240 miliwn drwy'r rhaglen hon, gan helpu degau ar filoedd o aelwydydd incwm isel i godi o dlodi tanwydd.

 

20.    Mae angen cydweithio ar draws y Llywodraeth er mwyn symud ein heconomi a'n cymdeithas oddi wrth danwydd ffosil trwy ragor o waith trydaneiddio ac effeithlonrwydd. Yn y gyllideb hon, rydym yn helpu i sbarduno busnesau a chymunedau o Fôn i Fynwy i gyflymu'r newid hwn mewn sectorau economaidd allweddol:

 

·         Ynni

 

Rydym yn buddsoddi £15 miliwn mewn creu systemau ynni carbon isel lleol ym mhob cwr o Gymru, gan ddilyn dull gweithredu system gyfan er mwyn cefnogi amrywiaeth o dechnolegau trydan a gwres carbon isel a fydd yn cyflawni orau yn ôl anghenion cymunedau a busnesau mewn lleoliadau gwahanol. Bydd yr arian hwn yn cefnogi ein hamcan o sicrhau sector cyhoeddus carbon-niwtral erbyn 2030. Hefyd, byddwn yn parhau i gynyddu ein cymorth i'r 70 a mwy o brosiectau cynhyrchu ynni adnewyddadwy lleol a chymunedol ledled Cymru sy’n cael buddsoddiad


gennym. Ategir y gwaith hwn gan gyllid benthyciad ychwanegol sydd ar gael drwy Fanc Datblygu Cymru.

 

·       Amaethyddiaeth

 

Yn y gyllideb hon, rydym wedi ymrwymo £76 miliwn, gan gynnwys £40 miliwn o gyllid yr Undeb Ewropeaidd, er mwyn helpu ein ffermwyr i fabwysiadu arferion ffermio cynaliadwy sy'n golygu bod eu busnesau a’n cefn gwlad yn gallu gwrthsefyll effeithiau newid hinsawdd yn well. Mae ein buddsoddiadau'n cefnogi ffermwyr wrth i ni barhau i godi'r llinell sylfaen reoleiddiol, gyda safonau amgylcheddol tynnach sy'n sicrhau'r cynnydd mae'r sector wedi'i wneud trwy ddulliau gwirfoddol, a rhoi diwedd ar unrhyw arferion gwael sy’n dal i fodoli.

 

21.    Os ydym am oresgyn yr argyfwng hinsawdd presennol, bydd angen i'n hamgylchedd naturiol fod yn y cyflwr gorau posib fel bod ecosystemau'n gallu gwrthsefyll yr ergydion ddaw i’w rhan wrth i’r hinsawdd newid, a'n bod yn cynyddu grym gwarchodol byd natur y mae ein llesiant yn dibynnu cymaint arno.

 

·         Safleoedd gwarchodedig

 

Gyda’i gilydd, mae’r 112 safleoedd natur pwysicaf Cymru o ran ecoleg yn cael eu hadnabod fel rhan o'r rhwydwaith Natura 2000 sy'n ymestyn ledled yr Undeb Ewropeaidd. Yn y gyllideb hon rydym wedi ymrwymo £15 miliwn i fuddsoddi mewn gwella cyflwr y safleoedd hyn a chryfhau'r trefniadau ar gyfer eu rheoli yn y dyfodol.

 

·         Coedwig Genedlaethol i Gymru

 

Eleni, fe wnaethom nodi ein bwriad i greu coedwig genedlaethol i Gymru, gyda'n gweledigaeth hirdymor i gael coedwig sy’n ymestyn ar hyd a lled Cymru. Bydd hyn yn creu cyfleoedd newydd ym maes twristiaeth, gan adeiladu ar lwyddiant Llwybr Arfordir Cymru, yn ogystal ag amsugno ein hallyriadau carbon. Yn y gyllideb hon, rydym yn cychwyn y rhaglen drwy ymrwymo £5 miliwn i wella cyflwr a chysylltedd ein coetiroedd hynafol mwyaf gwerthfawr a chyflymu'r broses o blannu coed sydd, yn nhair blynedd gyntaf y tymor Cynulliad hwn, wedi’r pasio targed o 16 miliwn o goed, sy'n cyfateb i blannu dros 14,000 o goed bob dydd.

 

·         Mawndiroedd

 

Mae mawndiroedd yn chwarae rhan ddeuol o ran amsugno symiau enfawr o allyriadau carbon a chynnal amrywiaeth cyfoethog o gynefinoedd a rhywogaethau. Yn y gyllideb hon, rydym yn ymrwymo £1 miliwn i gyflawni blwyddyn gyntaf rhaglen genedlaethol i adfer mawndiroedd er mwyn cefnogi’r nod o sicrhau bod pob cynefin lled- naturiol â mawn yng Nghymru yn cael ei reoli’n gynaliadwy. Yn ogystal â diogelu gallu mawndiroedd i amsugno allyriadau carbon, mae'r gwariant


ataliol hwn ar well rheolaeth yn lleihau'r risg o danau gwyllt gan arbed adnoddau'r gwasanaethau brys wrth fynd i'r afael â nhw.

 

·         Ansawdd dŵr

 

Rydym yn ymrwymo £9.5 miliwn i fynd i'r afael â materion ansawdd dŵr sy'n effeithio ar ein hafonydd a chyrff dŵr mewndirol eraill. Mae’n cynnwys

£4.5 miliwn ar adfer mwyngloddiau metel sy’n parhau i lygru llawer ar ddyfroedd Cymru ers cael eu gadael yn segur mwy na 100 mlynedd yn ôl mewn rhai achosion. Bydd gwella ansawdd dŵr yn gwella iechyd yr amgylchedd ehangach, gan olygu y bydd yn gallu gwrthsefyll effeithiau newid hinsawdd yn well.

 

·         Cadwraeth Forol

 

Rydym wedi cael ein diogelu rhag llawer o effeithiau cynhesu posib allyriadau nwyon tŷ gwydr gan fod y môr wedi’u hamsugno. Ac eto mae hyn wedi achosi difrod ecolegol i'n cefnforoedd, sydd wedi ychwanegu at y difrod o’r Rhyfeloedd Byd, a llygredd plastig yn fwy diweddar. Yn y gyllideb hon, rydym yn ymrwymo £4.4 miliwn i gymryd camau i adfer mwy o'n hamgylchedd morol a galluogi gweithgarwch economaidd cynaliadwy nad yw'n achosi difrod pellach, gan gynnwys cymorth i ddatblygu technoleg  ynni adnewyddadwy’r môr.

 

·         Mynediad at fyd natur

 

Yn y gyllideb hon, rydym yn ymrwymo £10m er mwyn buddsoddi mewn cydweithredu rhwng cymunedau lleol, busnesau a chyrff cyhoeddus drwy amrywiaeth o gynlluniau grant, gan gynnwys ein grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant. Mae'r prosiectau a ariennir drwy'r cynllun wedi'u cynllunio i fod yn sbardun ar gyfer cydweithredu hirdymor i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd, llygredd a phwysau allweddol arall ar ein hamgylchedd naturiol.

 

·         Cynllun Twf Amgylcheddol

 

Mae maniffesto'r Prif Weinidog yn ymrwymo i ddatblygu Cynllun Twf Amgylcheddol er mwyn cyfleu a chydlynu’r camau cydweithredu sydd gennym mewn golwg i atal a gwrthdroi'r dirywiad mewn natur a thyfu’r amgylchedd er budd cenedlaethau'r dyfodol.

 

Nod y cynllun yw bod yn naratif trosfwaol ar gyfer yr hyn rydym yn ei wneud ar draws Llywodraeth Cymru i greu Cymru wyrddach, gan osod dull strategol, mwy cydgysylltiedig, sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau. O fewn y cyfalaf cyffredinol o £137 miliwn a ddyrannwyd ledled Llywodraeth Cymru yn 2020-21, mae £5 miliwn o gyfalaf wedi'i ddyrannu'n benodol i’r Cynllun Twf Amgylcheddol, ar gyfer prosiectau y gellir eu gweld ‘o garreg y drws’.

Rydym yn ystyried sut gellid ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol (gan ddefnyddio'r Grŵp Cyfeirio Allanol) a chynnwys y posibilrwydd o gael 'cronfa mannau lleol i fyd natur' er mwyn annog gweithredu lleol, lle caiff


cymunedau eu hannog i ddatblygu atebion lleol, ar raddfa fach, i Dwf Amgylcheddol.

 

Datgarboneiddio

 

22.    Rydym yn canolbwyntio ein paratoadau ar gyfer y gyllideb ar draws y Llywodraeth ar wyth maes blaenoriaeth trawsbynciol lle gallwn gael yr effaith fwyaf yn y tymor hir. Mae hyn yn cynnwys ein blaenoriaeth datgarboneiddio.

 

23.    Y 100 o bolisïau a chynigion a nodir yng nghynllun Cymru Carbon Isel yw'r camau a nodwyd gennym dros 2016-2020 a fydd yn cyflawni ein cyllideb garbon gyntaf a'n targed interim yn 2020.                                                Dyma'r 100 o gamau gweithredu sy’n seiliedig ar dystiolaeth Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd (UKCCC) sydd naill ai'n lleihau allyriadau'n uniongyrchol neu'n cyfrannu at y newid i economi carbon isel mewn ffordd deg a fydd yn ein galluogi i gyrraedd ein targedau deddfwriaethol a’n harwain ar lwybr lleihau allyriadau.

 

24.    Ers cyhoeddi ein cynllun, rydym wedi cyflymu ein huchelgais yn dilyn y dystiolaeth ddiweddaraf a gyflwynwyd gan y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd fis Hydref diwethaf. Rwyf wedi derbyn argymhelliad UKCCC ac yn bwriadu deddfu i'r perwyl hwn yn 2020. Mae’n cynrychioli cyfraniad teg Cymru at ymrwymiad y DU dan Gytundeb Paris ac yn dangos ein hymrwymiad i fynd i'r afael â’r argyfwng hinsawdd. Hefyd, rydym wedi gofyn i UKCCC ymchwilio i'r hyn y bydd yn ei olygu i Gymru fod yn wlad ddi-allyriadau.

 

25.    Rydym wedi dechrau datblygu'r Cynllun a'r polisïau a'r cynigion i fodloni’r ail gyllideb garbon. Gwyddom eisoes y bydd yr uchelgais fwy heriol yn golygu y bydd angen cynyddu a chyflymu ymdrechion polisi er mwyn cyrraedd ein targed newydd. Bydd angen ariannu’r camau hyn gan y cyllidebau ariannol sy'n ymwneud â'r cyfnod hwnnw ac fe'u pennir yn ôl y camau y byddwn yn dewis eu cymryd. Byddwn yn derbyn cyngor pellach gan yr UKCCC tua’r adeg hon y flwyddyn nesaf.

 

26.    Bydd y rhan fwyaf o benderfyniadau gwario yn dylanwadu ar ystod gyfan o ganlyniadau, ac yn seiliedig ar ein profiadau blaenorol wrth geisio cyflwyno buddion niferus fel Llywodraeth sy'n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, nid yw priodoli pob punt a wariwn i ganlyniad unigol yn cynrychioli’r cysylltiad rhwng gwariant a chanlyniadau yn gywir nac yn ystyrlon. Felly, rydym wedi mynd ati i nodi prosiectau a fydd yn helpu i leihau allyriadau, yn hytrach na chynrychioli gwariant cyfan Llywodraeth Cymru ar leihau effeithiau newid hinsawdd.

 

27.    Rydym hefyd yn darparu cyllid cyfalaf o £23 miliwn yn 2020-21 i’r rhaglen Cartrefi Cynnes, sy’n cynnwys Nest ac Arbed. Dros gyfnod y rhaglen, 2017-21, byddwn yn gwella effeithlonrwydd ynni hyd at 25,000 o gartrefi ledled Cymru ac yn rhoi sefydlogrwydd a sicrwydd i’r gadwyn gyflenwi


effeithlonrwydd ynni yng Nghymru i dyfu eu busnes. Bydd ein buddsoddiad hefyd yn ysgogi hyd at £24 miliwn o gyllid yr UE, yn ogystal â chyllid gan Rwymedigaeth Cwmnïau Ynni’r DU.

 

28.    Yn yr uwchgynhadledd ar Newid Hinsawdd ar 16 Hydref, fe wnes i a’r Prif Weinidog annog pawb - gan gynnwys busnesau, y sector cyhoeddus, cymunedau a phobl ifanc - i addo cymryd camau i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ym mha bynnag ffordd bosib. Mae'n gofyn am weithredu ar y cyd a hoffem rannu’r hyn a ddysgwyd cyn Cynhadledd y Partïon (COP 26) y Cenhedloedd Unedig y flwyddyn nesaf a chyhoeddi ein Cynllun Cyflenwi Cymru Gyfan yn 2021.

 

 

Gwariant ataliol

 

29.    Er ei bod yn anodd nodi'r gyfran o'n cyllidebau sy'n ataliol, roedd effaith carbon ein cynigion buddsoddi yn ystyriaeth allweddol wrth ddyrannu cyllid ar gyfer buddsoddiad cyfalaf newydd, ynghyd â'r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru. Mae buddsoddiad cyfalaf mewn seilwaith a mesurau ataliol yn gwneud cyfraniad pwysig at gyflawni’r gostyngiadau carbon sydd eu hangen.

 

30.    Mae angen i ni ddeall effaith ein polisïau er mwyn cyfyngu ar ganlyniadau anfwriadol. Bydd hyn yn cynnwys datblygu ein sylfaen dystiolaeth ehangach, fel dull modelu allyriadau. Bydd hyn yn ein galluogi i ddatblygu polisïau a chynigion ar gyfer y dyfodol mewn ffordd sy'n cyflawni'r nodau orau ac yn cyfyngu ar ganlyniadau anfwriadol.

 

31.    Yn ogystal, yn Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sefydlu grŵp cynghori ar gyfiawnder hinsoddol i sicrhau bod ein cyfnod pontio yn osgoi canlyniadau anfwriadol. Mae swyddogion bellach yn gweithio gyda Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i archwilio'r dystiolaeth sydd ei hangen er mwyn sicrhau bod y cyfnod pontio yn cyfuno datgarboneiddio gydag ymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol ac economaidd.

 

32.    Mae’r Strategaeth Genedlaethol ar Reoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yn pennu’r amcanion ar gyfer rheoli llifogydd ac erydu arfordirol. Mae lefel dda o dystiolaeth ar gael o fapiau perygl llifogydd cyfredol (o safbwynt y risg o lifogydd afonydd, arfordirol a dŵr wyneb), Cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd, strategaethau lleol, yr Asesiad Bygythiad Llifogydd Cenedlaethol a’r Gofrestr Cymunedau mewn Perygl.

Mae ymchwil ddiweddar yn dangos bod buddsoddiad o £100 miliwn yn lleihau risg ar gyfer 7,000 o gartrefi a busnesau, yn amddiffyn dros 14,000 o swyddi ac yn creu dros 1,000 o swyddi. Ar ben hynny, mae gwario arian ar gynnal a chadw yn lleihau’r risg y bydd asedau’n methu.

 

33.    Mae ein buddsoddiad parhaus mewn Twf Gwyrdd Cymru yn dangos bod meddwl yn arloesol yn gwneud i gyllidebau fynd ymhellach ar draws Llywodraeth Cymru. Rydym yn gwneud buddsoddiadau sydd nid yn unig


yn lleihau allyriadau ond sydd hefyd yn galluogi cyrff cyhoeddus i arbed arian parod drwy wario llai ar eu biliau ynni. Mae’n canolbwyntio ar brosiectau seilwaith a fydd yn lleihau allyriadau carbon, gan gynnwys cynhyrchu ynni adnewyddadwy, defnyddio adnoddau’n effeithlon, ac ynni o brosiectau gwastraff.

 

34.    Trwy fuddsoddi i fynd i’r afael â thlodi tanwydd, rydym yn helpu i drechu ystod o effeithiau negyddol, gan gynnwys cyflyrau iechyd sy’n gysylltiedig â thywydd oer, gormod o farwolaethau yn y gaeaf, cyrhaeddiad addysgol plant ac absenoldeb o’r ysgol a’r gwaith oherwydd salwch. Mae gan Gymru 1.4 miliwn o gartrefi o bob math, ac rydym yn amcangyfrif bod 30% o aelwydydd ein gwlad yn byw mewn tlodi tanwydd. Mae canfyddiadau gwaith ymchwil yn dangos bod cynllun Nyth Cartrefi Clyd yn cael effaith gadarnhaol amlwg ar iechyd y rhai sydd wedi elwa ar y cynllun, gyda’r rhai a gafodd fesurau arbed ynni yn defnyddio llai o’r GIG. Mae’r canlyniadau hyn yn cefnogi ein penderfyniad i ymestyn meini prawf cymhwysedd ein cynllun i gynnwys pobl ar incwm isel sydd â chyflwr anadlol neu gylchredol.

 

35.    Mae ein buddsoddiad mewn rhaglenni dileu clefydau anifeiliaid yn ataliol eu natur. Er enghraifft, nod y Rhaglen Dileu TB yn y pen draw yw dileu achosion o TB mewn gwartheg yn llwyddiannus, a fydd yn arwain at lai o wario ar ddileu ac iawndal, yn ogystal â llai o golledion dilynol i’r diwydiant, a bydd hynny’n hybu economi Cymru.

 

36.    Hefyd, mae rhaglenni dan arweiniad y diwydiant sy'n cael eu hariannu gan Raglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru ac sy'n cael eu rhedeg gan Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru gyda'r nod o ddileu dolur rhydd feirysol y gwartheg (BVD) a'r clafr o Gymru. Mae BVD yn glefyd costus sy'n gallu effeithio ar effeithlonrwydd fferm yn ogystal â gostwng safon lles y fuches. Y clafr yw un o'r clefydau mwyaf heintus i ddefaid yng Nghymru ac fe'i nodwyd fel clefyd â blaenoriaeth gan y Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid.

 

 

 Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

 

37.    Mae fy mharatoadau ar gyfer y gyllideb drafft yn dangos sut rwyf wedi ceisio adlewyrchu fframwaith Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol wrth bennu ein blaenoriaethau gwario. Adolygwyd y tueddiadau cyfredol a rhagdybiaethau’r dyfodol a’u heffeithiau posib yn y tymor byr, canolig a hwy. Gwnaethom hyn er mwyn sicrhau, cyhyd ag y bo modd, nad yw ymatebion tymor byr yn arwain at effeithiau niweidiol yn y tymor hwy.

 

38.    Er enghraifft, mae ein Rhaglen Cartrefi Clyd yn gwneud cyfraniadau sylweddol ar draws llawer o amcanion llesiant Llywodraeth Cymru dan ein Strategaeth Genedlaethol “ffyniant i bawb” gan gynnwys hybu iechyd a llesiant da. Cyflawnir hyn trwy greu swyddi a chyfleoedd busnes, gwella’r stoc tai yn yr hirdymor, lleihau allyriadau carbon a mynd i’r afael â thlodi


tanwydd a’r holl effeithiau negyddol cysylltiedig mae’n eu cael ar iechyd, llesiant a chyrhaeddiad addysgol.

 

39.    Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu ein hamgylchedd morol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, drwy reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy. Un ffordd bwysig o gyrraedd y nod hwn yw ein rhwydwaith o 139 o Ardaloedd Morol Gwarchodedig (MPAs) sy'n cwmpasu 69% o ddyfroedd mewndirol Cymru a 50% o holl ddyfroedd morol Cymru.

 

40.    Mae'r Cynllun Twf Amgylcheddol yn bwriadu bod yn naratif trosfwaol ar gyfer yr hyn rydym yn ei wneud ar draws Llywodraeth Cymru i greu Cymru wyrddach, gan osod dull strategol, mwy cydgysylltiedig, sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau. Mae'r saith nod llesiant dan yr egwyddor datblygu cynaliadwy yn darparu fframwaith clir ar gyfer creu'r Cynllun, gyda'r pum ffordd o weithio yn sail i’n ffordd o weithio. Er enghraifft, bydd y Cynllun Twf Amgylcheddol yn un hirdymor ac ataliol, gyda’r nod o atal a gwrthdroi'r dirywiad mewn natur. Ei nod yw bod yn integredig a chydweithredol ledled Llywodraeth Cymru, y gwasanaeth cyhoeddus ehangach, a chynnwys y sector preifat a'r trydydd sector. Y bwriad hefyd yw sicrhau manteision ehangach megis defnyddio'r amgylchedd naturiol i hybu iechyd a llesiant meddyliol a chorfforol a chwalu rhwystrau i iechyd e.e. llygredd aer.

 

41.    Bydd yr ymrwymiad ym maniffesto'r Prif Weinidog ar gyfer coedwig genedlaethol newydd yn helpu i gefnogi nodau Coetiroedd i Gymru, yn ogystal â blaenoriaethau’n ymwneud â bioamrywiaeth, coedwigaeth fasnachol, adeiladu, cydlyniant cymunedol ac adfywio cymunedol, ac iechyd a llesiant. Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried sut i wneud ymwyaf o'r manteision economaidd ac amgylcheddol hyn a bydd yn cydweithio â'r sector cyhoeddus a phartneriaid eraill i nodi’r safleoedd gorau ar gyfer plannu. Mae’n waith sylweddol ac mae'n hanfodol ein bod yn cymryd yr amser i'w gynllunio'n iawn i sicrhau llwyddiant.

 

42.    Yn Ffermio Cynaliadwy a’n Tir, cynigiwyd Rheoli Tir yn Gynaliadwy fel un o amcanion y cynllun newydd. Mae Rheoli Tir yn Gynaliadwy yn gysyniad a gydnabyddir yn rhyngwladol ac mae'n cyd-fynd â llawer o elfennau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae'r cysyniad yn edrych i'r tymor hir. Mae’n datgan er y dylid defnyddio tir i gynhyrchu bwyd, ni ddylai arferion ffermio hanfodol beryglu potensial cynhyrchu hirdymor y tir hwnnw. Er mwyn helpu i gyflawni'r amcan Rheoli Tir yn Gynaliadwy, mae'r cynllun newydd yn cynnig llawer o ganlyniadau lefel uchel y gall ffermwyr a thirfeddianwyr eraill eu cyflawni ar eu fferm. Ceir canlyniadau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd, sy'n cynnwys bwyd cynaliadwy, mynd i'r afael â’r argyfwng hinsawdd a datgarboneiddio.

 

43.    Mae rheoli ein hamgylchedd dŵr yn well ymhlith amcanion Rhaglen Lywodraethu 2016-2021 ac yn un o ymrwymiadau’r Strategaeth Ddŵr Genedlaethol. Mae Systemau Draenio Cynaliadwy, sy'n cael eu hadnabod gan yr acronym SDC, yn disgrifio dull o reoli dŵr wyneb. Ers 7 Ionawr 2019, mae’n ofynnol i bob datblygiad newydd yng Nghymru sy'n fwy nag 1 tŷ neu lle mae'r arwynebedd adeiladu’n 100 metr sgwâr neu fwy, gael


SDCau ar gyfer dŵr wyneb. Mae gweithredu SDCau yn arbennig o berthnasol i amcanion a strategaethau trawsbynciol. Bydd yn helpu i gyflawni amcanion llesiant ar gyfer seilwaith gwydn a chynaliadwy ac atebion seiliedig ar natur, yn unol â blaenoriaethau’r Polisi Adnoddau Naturiol a Ffyniant i Bawb, drwy gefnogi cymunedau cynaliadwy, iach ac egnïol a hyrwyddo twf gwyrdd ar gyfer economi sy'n defnyddio adnoddau'n fwy effeithlon.

 

44.    Profwyd bod gweithgareddau megis codi ymwybyddiaeth o lifogydd ac adeiladu cynlluniau llifogydd ac erydu arfordirol yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd cymunedau, drwy leihau pryder a phroblemau iechyd meddwl yn ogystal â chynnig cyfleoedd newydd ar gyfer amwynderau, mynediad a hamdden. Er enghraifft, gwnaeth ein cynllun £16 miliwn ym Mae Colwyn leihau'r perygl llifogydd ac erydu arfordirol i 192 eiddo gyda'r fantais ychwanegol o adfywio'r ardal trwy ddarparu cyfleusterau twristiaeth, gan gynnwys canolfan chwaraeon dŵr newydd, a chreu swyddi newydd i’r dref.

 

45.    Yn olaf, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi eu Datganiad Llesiant, sy’n nodi saith amcan lles sy’n sail i’w Hadroddiad Corfforaethol ar gyfer 2017-2022. Blaenoriaethau Cyfoeth Naturiol Cymru fydd datblygu’r sefydliad a newid eu ffordd o weithio – gan fabwysiadu dull rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a’r egwyddorion cysylltiedig, a phum ffordd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol(Cymru).

 

Dolen gyswllt i Gynllun Corfforaethol CNC - https://naturalresourceswales.gov.uk/about- us/Corporate-information/Wellbeing-objectives/introduction-to-Corporate-plan/?lang=cy

 

Llunio polisïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth

 

46.    Mae amgylchedd Cymru yn sail i'r sectorau amaeth, pysgodfeydd, twristiaeth a choedwigaeth, ac mae'n bwysig i feysydd polisi eraill gan gynnwys iechyd a llesiant, ynni a seilwaith. Er mwyn llywio datblygiad polisïau sy'n meithrin cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol a gwerthuso’r modd mae’r rhaglen yn gweithredu, rydym yn buddsoddi'n flynyddol yn Rhaglen Monitro a Modelu Materion Gwledig a’r Amgylchedd (ERAMMP).

 

47.    Mae ERAMMP yn darparu rhaglen monitro a modelu amgylcheddol; gan gasglu a chymhathu data, dadansoddi a modelu a chyflwyno tystiolaeth benodol i dimau polisi, Cyfoeth Naturiol Cymru a rhanddeiliaid. Mae’n cyflawni swyddogaeth strategol hefyd, trwy’n helpu i ddeall sbardunau hirdymor, newid yn yr hinsawdd, er enghraifft, ac effeithiau newid ar gydnerthedd yr amgylchedd, y manteision a'r nwyddau cyhoeddus a ddarperir gan ein hamgylchedd ac effeithiau cymdeithasol ac economaidd ehangach.

 

48.    Er enghraifft, rwy’n bwrw ymlaen ag ymrwymiad y maniffesto i greu Coedwig Genedlaethol ar ffurf rhaglen goedwigaeth a fyddai'n sicrhau amrywiaeth o fanteision. Bydd ERAMMP yn cynorthwyo i sefydlu coedwig genedlaethol drwy ddarparu ystod o dystiolaeth dros bedwar cyfnod


allweddol. Bydd y pecyn tystiolaeth yn cefnogi Polisi Coedwigaeth wrth ddatblygu a dangos tystiolaeth o agweddau allweddol ar y Goedwig Genedlaethol, yn benodol drwy gefnogi achos busnes a fydd yn nodi amcanion a chanlyniadau'r Goedwig Genedlaethol.

 

49.    Ymhlith heriau allweddol sefydlu'r Goedwig Genedlaethol mae’r tir sydd ar gael, cymell plannu, sicrhau manteision niferus, deall cyfaddawdau ac osgoi canlyniadau anfwriadol. Gall tystiolaeth a gynhyrchir gan yr ERAMMP helpu i oresgyn y rhain.

 

50.    O ran y Cynllun Datblygu Gwledig, rwy'n cydnabod pwysigrwydd gwerthuso'r Rhaglen bresennol er mwyn darparu sail dystiolaeth ar gyfer unrhyw drefniadau yn y dyfodol. Cytunwyd ar gynllun gwerthuso’r Cynllun Datblygu Gwledig cyfredol yn ffurfiol gyda'r Comisiwn Ewropeaidd fel rhan o broses gymeradwyo'r Rhaglen. Mae’r cynllun gwerthuso a chyflawni yn erbyn hyn yn elfen orfodol o’r Rhaglen.

 

51.    Er enghraifft, fel rhan o'r Cynllun Datblygu Gwledig, mae system werthuso barhaus ar waith i archwilio hynt y mesurau a'r gweithgareddau yn erbyn yr amcanion a'r canlyniadau. Cynhaliwyd gwerthusiadau o’r Cynllun ar lefel is-gynlluniau sy'n cynnwys adolygiad annibynnol o'r Cynllun Rheoli Cynaliadwy, Cyswllt Ffermio, y Grant Busnes i Ffermydd a'r Grant Cynhyrchu Cynaliadwy. Mae Pwyllgor Monitro’r Rhaglen yn cael adroddiadau rheolaidd sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau gwerthuso parhaus a’r cynnydd yn erbyn y Strategaeth Monitro a Gwerthuso ar gyfer cronfeydd ESI yng Nghymru.

 

52.    Enghraifft arall yw’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol sy’n pennu’r amcanion ar gyfer rheoli llifogydd ac erydu arfordirol. Mae lefel dda o dystiolaeth o fapiau perygl llifogydd cyfredol (ar gyfer peryglon llifogydd afon, arfordirol a dŵr wyneb), Cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd, strategaethau lleol, yr Asesiad Bygythiad Llifogydd Cenedlaethol a’r Gofrestr Cymunedau mewn Perygl.

 

53.    Hefyd, mae astudiaethau annibynnol fel adroddiad Llifogydd yng Nghymru yn y Dyfodol ac Adolygiad o Lifogydd Arfordirol Cymru yn helpu i nodi’n glir yr angen am fuddsoddiad parhaus a’r risgiau cynyddol sy’n gysylltiedig â llifogydd a newid hinsawdd.

 

54.    Byddwn hefyd yn gweithio gyda CNC, llywodraethau'r DU a’r Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon i ddatblygu cynigion ar gyfer rhaglen monitro bioamrywiaeth forol integredig y DU, sy'n cynnwys monitro o fewn ardaloedd morol gwarchodedig. Mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo ar y cyd ag arbenigwyr gwyddoniaeth a pholisi drwy Grŵp Asesu ac Adrodd Morol y DU a Grŵp Tystiolaeth Moroedd Iach a Biolegol Amrywiol. Byddai'r rhaglen fonitro hon yn cyflwyno'r dystiolaeth sydd ei hangen i asesu ac adrodd yn hyderus ar iechyd a statws ein bioamrywiaeth forol a'n cynnydd tuag at fodloni statws amgylcheddol da, yn unol â'n hymrwymiadau yn Strategaeth Forol y DU.


Effeithiau ar Gydraddoldeb, y Gymraeg a Hawliau Plant

 

55.    Ar ôl adolygu’r newidiadau allweddol uchod, roedd nifer o raglenni allweddol yn destun Asesiadau Effaith Integredig yn cwmpasu cydraddoldeb, y Gymraeg a Hawliau Plant. Mae asesiadau effaith integredig wedi’u prif-ffrydio’n rhan o’r broses llunio polisi a phenderfyniadau cyllidebol.

 

56.    Rwy'n falch o nodi nad yw fy mhortffolio wedi cael unrhyw ostyngiadau cyllidebol yn y gyllideb ddrafft hon, felly cynhaliwyd unrhyw asesiadau effaith ar nifer o fentrau polisi a chyllidebol newydd.

 

57.    Mae canlyniadau’r asesiadau effaith yn dangos nad oes effeithiau anghymesur ar y grwpiau a nodwyd o ganlyniad i’r penderfyniadau cyllidebol hyn.

 

 

Y Gymraeg

 

58.    Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a’r Safonau arfaethedig yn ei gwneud hi’n ofynnol i ni wneud y tri phethcanlynol:

 

1.            Ystyried effeithiau ein penderfyniadau polisi mewn perthynas â’r Gymraeg (cadarnhaol a negyddol)

 

2.            Ystyried sut i gynyddu effeithiau cadarnhaol, lliniaru neu leihau effeithiau andwyol a manteisio ar bob cyfle i hybu’r defnydd o’r Gymraeg

 

3.            Gofyn am sylwadau ar effeithiau ar y Gymraeg wrth ymgysylltu neu ymgynghori a cheisio barn siaradwyr a defnyddwyr y Gymraeg

 

59.    Fel rhan o’r broses Asesu Effaith Integredig, rydym wedi ystyried effaith ein penderfyniadau cyllidebol ar y Gymraeg, ac wedi nodi nad oes unrhyw effeithiau sylweddol ar ddarpariaeth gwasanaethau Cymraeg.

 

 

Hawliau Plant

 

60.    Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU, ac ymhlith yr ychydig wledydd yn y byd, sydd wedi ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) o fewn cyfraith ddomestig trwy gyfrwng Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.

 

61.    Mae dyletswyddau’r Mesur yn cael eu gweithredu mewn dau gam ac yn rhoi dyletswyddau ar Weinidogion Cymru:


·         i roi ystyriaeth gytbwys i hawliau CCUHP a’i brotocolau dewisol wrth lunio neu adolygu polisi a deddfwriaeth;

·         i roi ystyriaeth gytbwys i hawliau CCUHP pan fyddant yn arfer eu holl bwerau neu ddyletswyddau cyfreithiol.

 

62.    Ar draws fy mhortffolio, mae’n ofynnol i bob aelod o staff ystyried sut mae ei waith yn effeithio ar hawliau plant, ac mae’r broses hon wedi llywio’r Asesiad Effaith Integredig. Ni nodwyd unrhyw effeithiau sylweddol ar hawliau plant wrth bennu’r gyllideb hon.

 

 

Cyfoeth Naturiol Cymru

 

Tabl 6. Cymharu cyllideb CNC

Cyllideb CNC

Cyllideb Atodol Gyntaf 2019-20

£m

 

Cyllideb ddrafft 2020-21

£m

Newid yn y gyllideb £m

GIA Refeniw*

59.263

 

59.033

(0.230)

GIA Cyfalaf

0.966**

 

1.216

0.250

Cyfalaf

Llifogydd***

12.700

 

12.700

0.000

Refeniw

Llifogydd***

19.750

 

19.750

0.000

Cyfanswm

92.679

 

92.699

0.020

* Cymorth Grant CNC BEL 2451 (Nid yw'n cynnwys cyllidebau nad ydynt yn arian parod)

** Mae GIA Cyfalaf 2019/20 yn defnyddio llinell sylfaen agoriadol 2020/21 fel y cytunwyd yn 2018/19.

***Cyllid llifogydd i’w gytuno ac mae’n rhan o BEL 2230

 

 

63.    Mae cyllideb CNC ar gyfer 2020/21 yn cynnwys mân newidiadau o gymharu â’r gyllideb atodol 1af ar gyfer 2019-20. Mae'r gostyngiad o

£0.230 miliwn mewn refeniw yn deillio o newidiadau yng nghyllid pontio afreolaidd yr UE a ddyfarnwyd yn ystod 2019-20, a symudiad rheolaidd o fewn y MEG o £0.2 miliwn i BEL 2191 Ansawdd yr Amgylchedd Lleol, a gan mai alinio o fewn y gyllideb yw hyn, nid yw'n effeithio ar y cyllid uniongyrchol i CNC. Mae'r cynnydd mewn cyllid cyfalaf yn deillio o ddyfarnu £0.250 miliwn tuag at gostau pontio’r UE ar gyfer 2020-21 yn unig. Ni fu unrhyw newid i gymorth grant (GIA) craidd ar gyfer CNC yn 2020-21.

 

64.    Yn y gyllideb hon, rydym yn cynnal cyllid GIA Llywodraeth Cymru sydd ar gael i Cyfoeth Naturiol Cymru, sef £60 miliwn (£93 miliwn gan gynnwys cyllid rheoli llifogydd a dŵr). Bydd hyn yn eu galluogi i roi hwb i'w hymdrechion i fynd i'r afael â'r newid hinsawdd a'i effaith yng Nghymru. Gwneir hyn drwy gynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy ar dir y sector cyhoeddus a rheoli llifogydd yn fwy naturiol. Disgwylir iddyn nhw greu datganiadau ardal manwl a’r adroddiad Sefyllfa ein Hadnoddau Naturiol nesaf, a gyhoeddir yn ystod 2020. Mae'r rhain yn adnoddau a rennir er


mwyn ein helpu i nodi’r cyfleoedd gorau sydd gennym ar gyfer ehangu coetiroedd, mawndiroedd a chynefinoedd pwysig eraill.

 

65.    Un o heriau mwyaf Llywodraeth Cymru yw mynd i'r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae'n hanfodol bod CNC yn parhau i ymateb i'n hargyfwng hinsawdd a'r uchelgais gynyddol o sicrhau o leiaf 95% yn llai o allyriadau. Bydd y DU ar lwyfan y byd yng Nghynhadledd y Partïon y Cenhedloedd Unedig (COP26) yn Glasgow yn 2020. Gyda CNC ar flaen y gad, nod gweithredu ar draws sawl sector yw ceisio sicrhau y bydd amgylchedd Cymru yn gallu gwrthsefyll effeithiau'r newid yn yr hinsawdd yn well.

 

66.    Mae gan CNC rôl ganolog o ran cefnogi'r newid i ynni adnewyddadwy, yn enwedig drwy'r Datganiadau Ardal. Mae CNC eisoes wedi gwneud cynnydd o ran datblygu cysyniadau cymesur ar gyfer ceisiadau

ynni. Byddant yn adeiladu ar y gwaith hwn i ddatblygu dull cadarnhaol a galluogol o ddatblygu ynni adnewyddadwy, ar y tir ac ar y môr.

 

67.    Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth, sy'n cael ei sbarduno i raddau helaeth gan CNC. Bydd yn ofynnol i CNC gyflawni rhaglen waith ar adfer mawndiroedd a rhai o'n safleoedd Natura 2000. Law yn llaw â hyn, bydd CNC yn arwain y gwaith o sicrhau bod camau'n cael eu cymryd yn erbyn plâu neu glefydau iechyd planhigion ac achosion o rywogaethau goresgynnol estron.

 

68.    Mae CNC yn parhau i chwarae rhan werthfawr iawn yn rheoli ac ehangu ystâd goetir Llywodraeth Cymru. Mae CNC wedi cyflwyno cynlluniau i ymateb i'r argyfwng hinsawdd, gan gynnwys ehangu'r gorchudd coetir ledled Cymru. Bydd hyn yn arwain at ddal a storio carbon, yn ogystal â newid y mathau o goed rydyn ni’n eu plannu mewn ymateb i fygythiadau a ddaw yn sgil newid yn yr hinsawdd. Bydd CNC yn gweithio gyda fy swyddogion i greu'r Goedwig Genedlaethol.

 

69.   Hefyd, bydd disgwyl i CNC weithio gyda fy swyddogion i ddatblygu Cynllun Twf Amgylcheddol, erbyn hydref 2020. Bydd yn cynnwys cysylltiadau â'r Datganiadau Ardal, ymgysylltu â'r gymuned a gweledigaeth CNC ar gyfer 2050. Rhaid i CNC ddefnyddio'r adnoddau sylweddol sydd ar gael iddo yn 2020-21 a gweithio gyda sefydliadau eraill, i gyflawni allbynnau diriaethol i dyfu natur. Rwy’n awyddus i bobl Cymru weld twf amgylcheddol ar garreg eu drws.  Mae gan CNC rôl bwysig wrth gefnogi cymunedau ledled Cymru i ddatblygu a chyflawni hyn.

 

 

Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd

 

70.    Bu Brexit ar frig blaenoriaethau fy mhortffolio ers dros dair blynedd bellach. Fel y dywedais sawl tro, byddai ymadael â'r UE heb gytundeb yn cael effaith drychinebus ar gymunedau gwledig, yn syth bin ac yn y tymor hir. Rwy’n hyderus ein bod wedi gwneud, ac yn parhau i wneud, popeth o fewn ein rheolaeth i liniaru effeithiau unrhyw gytundeb.


71.    Fodd bynnag, adeg cyflwyno’r papur tystiolaeth hwn, mae ansicrwydd yn parhau ynghylch canlyniad yr etholiad a chyfeiriad Brexit yn y dyfodol. Bydd dros 7,000 o swyddogaethau yn cael eu dychwelyd i Lywodraeth Cymru o Frwsel – y mwyafrif yn ymwneud ag amaethyddiaeth a'r amgylchedd. Mae'n hollbwysig, felly, ein bod ni’n cynllunio ar gyfer pob sefyllfa bosib a’n bod yn barod.

 

72.    Ar hyn o bryd mae gan fy mhortffolio gyfres o brosiectau parodrwydd ar gyfer Brexit ar waith (74), ac mae nifer sylweddol ohonynt yn cael eu cynnal ar lefel y DU. Rwyf wedi bod yn olrhain eu cynnydd yn rheolaidd ac yn adrodd, gyda'm cydweithwyr, i Is-bwyllgor Cabinet y Prif Weinidog ar Ymadael â'r UE.

 

73.    Roedd y rhan fwyaf o'r prosiectau paratoi ar gyfer gadael heb gytundeb yn barod ar gyfer gadael ar 31 Hydref. Bydd swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda Defra a gweinyddiaethau eraill y DU i gwblhau'r prosiectau sy'n weddill, pe bai eu hangen ym mis Ionawr. Rydym yn dal i bwyso ar Lywodraeth y DU am eglurder ynghylch maint y gyllideb ychwanegol a fydd ar gael i helpu i reoli canlyniad ‘Brexit heb gytundeb’.

 

74.    Mae'r prosiectau'n cwmpasu amrywiaeth o sectorau ac anghenion gan gynnwys sefydlu systemau rheoleiddio a gweithredol newydd yn ogystal â chynlluniau wrth gefn. Byddai'r systemau a ddatblygir yn darparu system sylfaenol, weithredol, a allai fod ar waith ar y diwrnod cyntaf.

 

75.    Hefyd, mae llawer o brosiectau ar y gweill sy'n cael effaith waeth a ydym yn gadael gyda neu heb gytundeb, gan gynnwys pennu safbwyntiau ar drefniant llywodraethu'r DU gyfan yn y dyfodol a pholisïau'r dyfodol fel rhai ym maes masnach, yr amgylchedd, rheoli tir a'r môr a physgodfeydd.

 

76.    Rydym hefyd wedi datblygu cynlluniau wrth gefn ar gyfer sectorau ar draws fy mhortffolio ac wedi'u profi i sicrhau bod mesurau lliniaru priodol ar waith ar gyfer y diwrnod cyntaf, gan gynnwys defaid, pysgodfeydd, dŵr a bwyd, ar y cyd â gweinyddiaethau ledled y DU. Byddwn yn parhau i adolygu’r rhain wrth i'r dyddiad gadael newid er mwyn ystyried y goblygiadau tymhorol.

 

Cyllid ar gyfer cymorth i amaethyddiaeth yn y dyfodol

 

77.    Mae'r modd y bydd y DU yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE) a'r berthynas economaidd yn y dyfodol ymhell o fod wedi'u penderfynu. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i delerau unrhyw gytundeb gadael. Bydd datrys y materion hyn yn pennu am ba hyd y bydd y DU yn aros o fewn rhannau gwahanol o’r Polisi Amaeth Cyffredin (PAC) ac, felly, pryd mae modd dechrau symud i drefniadau gwahanol. Unwaith y bydd cyllid wedi’i ddychwelyd, byddwn yn sicrhau bod cyllid yn cael ei gyfeirio at ffermio, coedwigaeth a chymorth rheoli tir arall, ac na chaiff ei wario yn unrhyw faes arall.


78.    Byddwn yn parhau i weithio ar y cyd â’n rhanddeiliaid, ar draws ac o fewn sectorau, i ddeall goblygiadau Brexit a sut gallwn, gyda’n gilydd, ymdrin â hwy. Rydym yn cyfrannu at drafodaethau’r DU gyfan ar fframweithiau’r dyfodol er mwyn sicrhau bod gan Gymru lais clir a’n bod ni’n rhan allweddol o bennu sefyllfa’r DU. Mae cymhlethdodau’n cynnwys yr angen i ystyried senario ‘gadael heb gytundeb’ a ‘gadael yn dilyn trafodaethau’; adolygiad gan Drysorlys EM o’r diffiniad o ‘gymorth i ffermydd’ a chanllawiau drafft diweddar gan Drysorlys EM sy’n cynnig sut mae disgwyl y bydd sicrwydd cyllid Llywodraeth y DU ac ymrwymiadau maniffesto’r Ceidwadwyr yn cael eu gweithredu hyd at 2022.

 

79.    Pan fyddwn yn gwybod mwy am gyllideb y dyfodol, bydd angen i ni benderfynu sut i ddosbarthu cyllid rhwng yr elfennau cymorth gwahanol. Yn benodol, bydd angen i ni benderfynu ar:

·         y cydbwysedd priodol rhwng cyllid ar gyfer ffermwyr, coedwigwyr a rheolwyr tir eraill yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a chymorth i'r diwydiant ehangach a'r gadwyn gyflenwi a;

·         pa elfennau o'r Rhaglen Datblygu Gwledig y dylid eu hymgorffori mewn trefniadau cymorth newydd.

 

Rhaglen Rheoli Tir newydd

 

80.    Daeth yr ymgynghoriad "Ffermio Cynaliadwy a'n Tir" i ben ar 30 Hydref. Daeth dros 500 o ymatebion o sylwedd i law a bron i 3,000 o

ymatebion ymgyrch. Mae fy swyddogion wrthi'n ystyried yr holl ymatebion ar hyn o bryd, a byddwn yn cyhoeddi crynodeb llawn maes o law.

 

81.    Gallai'r helynt posib a achosir gan Brexit heb gytundeb barhau am gryn amser. Ni allwn fforddio aros tan ddyddiad amhenodol yn y dyfodol cyn dechrau ystyried pa gymorth sydd angen ei ddyfeisio ar gyfer ffermwyr Cymru.

 

82.    Rydym eisiau rhoi cymaint â phosibl o eglurder ar y dyfodol i’r sector ffermio yng Nghymru yn y cyfnod ansicr hwn. Er na allwn fod yn sicr o ganlyniad Brexit, mae'n iawn ein bod ni’n ymgynghori a datblygu ein cynigion hirdymor ar gyfer cymorth yn y dyfodol. Nid yw canlyniad Brexit yn effeithio’n helaeth ar lawer o gynigion yr ymgynghoriad.

 

83.    Unwaith y byddwn yn gwybod mwy am gytundebau masnach a dyraniad cyllideb y dyfodol gan Lywodraeth y DU, ynghyd â chanlyniadau’r ymgynghoriad a chyd-lunio Ffermio Cynaliadwy a’n Tir, byddwn yn gallu bwrw ymlaen â'r gwaith modelu gofynnol cyn cwblhau’r broses ymgynghori hon a rhoi trefniadau cymorth newydd ar waith. Ein bwriad o hyd yw cyflwyno Papur Gwyn ar gyfer Bil Amaethyddiaeth (Cymru) cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn.

 

Rhaglen Datblygu Gwledig

 

84.    Mae'r Rhaglen Datblygu Gwledig yn darparu buddsoddiad sydd ei angen yn fawr yn ein hamgylchedd, ffermio a chymunedau gwledig. Mae’n


cynnwys buddsoddi mewn rheoli ein hecosystemau, defnyddio ynni'n effeithlon a lleihau nwyon tŷ gwydr. Mae'n cwmpasu Cymru gyfan sy'n alinio blaenoriaethau'r UE ar gyfer datblygu gwledig â saith nod ‘Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol’. Amaethyddiaeth sydd wrth wraidd y Rhaglen.

 

85.    Mae'r Rhaglen Datblygu Gwledig yn parhau i wneud cynnydd da ers ei chymeradwyo ar 26 Mai 2015. Ar lefel prosiect, ymrwymwyd cyfanswm o

£666.9 miliwn, sy'n cynrychioli 81% o gyllid y Rhaglen. Mae cynlluniau ar waith i gyflawni ymrwymiad llawn y rhaglen erbyn diwedd 2020. Mae’n bwysig cofio er mai rhaglen saith mlynedd yw’r Rhaglen Datblygu Gwledig, mae gwariant yn digwydd dros gyfnod o ddeng mlynedd dan y rheolau "N+3”. €247 miliwn yw ail darged gwariant yr UE ym mis Rhagfyr 2019, a llwyddodd Llywodraeth Cymru i gyflawni hyn ymhell o flaen yr amserlen ddechrau 2019.

 

Strategaeth Bwyd a Diod Ôl-Brexit

 

86.    Yn y tymor byr, rydym eisoes wedi cymryd camau i sicrhau ein safbwynt, gan gynnwys trafod ac ymgynghori ar Gynllun Dynodiad Daearyddol newydd y DU i ddechrau cyn gynted ag y bydd y DU yn gadael yr UE. Byddai cynlluniau Dynodiad Daearyddol newydd y DU a gynigir yn yr ymgynghoriad hwn yn sicrhau bod cynhyrchion y DU sydd wedi'u cofrestru dan gynlluniau Dynodiad Daearyddol presennol yr UE yn cael eu gwarchod yn awtomatig. Ar ben hynny, rydym yn ceisio sicrhau y bydd Dynodiadau Daearyddol y DU a gofrestrwyd dan gynlluniau'r UE yn parhau i gael eu gwarchod yn yr UE, ond mae’r trafodaethau ynghylch hyn yn parhau.

 

87.    Mae Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru a Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar gynigion am gynllun strategol ar gyfer y sector, i ddilyn y cynllun gweithredu presennol, a byddwn yn ystyried ymatebion i’r ymgynghoriad. Ffactor allweddol ar gyfer llwyddiant yw cryfhau rhwydweithiau a chlystyrau drwy'r gadwyn gyflenwi bwyd-amaeth, gan ehangu i’r sectorau gwasanaeth, manwerthu a thwristiaeth, a thrwy hyn ychwanegu gwerth a gwneud ein system yn fwy gwydn.

 

88.    Mewn ymateb uniongyrchol i'r her sylweddol sy’n wynebu diwydiant cig coch Cymru o ran ansicrwydd trefniadau masnachu y dyfodol wedi Brexit, rydym yn buddsoddi £1.5 miliwn dros dair blynedd ar gyfer Hybu Cig Cymru (HCC) er mwyn cyflwyno Rhaglen Allforio Well i gynorthwyo’r diwydiant i gadw marchnadoedd allweddol yn Ewrop a datblygu mynediad at farchnadoedd y tu hwnt i Ewrop. Ers dechrau'r rhaglen, mae’r cyfyngiadau ar fewnforion cig oen ac eidion o Brydain i Siapan a chig eidion o Brydain i Tsieina wedi'u codi, gan fraenaru’r tir ar gyfer cynyddu allforion o safon o Gymru i'r marchnadoedd allweddol hyn.

 

89.    Ar 4 Tachwedd, cyhoeddais y bydd ein digwyddiad nesaf ar gyfer y diwydiant bwyd a diod (Blas Cymru/Taste Wales) yn cael ei gynnal ar 10 ac 11 Mawrth 2021 yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru. Bydd yn adeiladu ar lwyddiannau digwyddiadau blaenorol 2017 a 2019, gan


ddod â phrynwyr cenedlaethol a rhyngwladol a chynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru at ei gilydd i arddangos ein cynnyrch o’r radd flaenaf, helpu i agor marchnadoedd newydd a tharo cytundebau masnach rhyngwladol. Bydd y digwyddiad yn helpu i gadarnhau lle bwyd a diod o Gymru ar y llwyfan

byd-eang ac yn hyrwyddo Cymru fel lleoliad allweddol i gynhyrchu bwyd a diod o safon. Mae'r digwyddiad yn dangos ein penderfyniad clir i barhau i hyrwyddo'r gorau o ddiwydiant bwyd a diod Cymru yn rhyngwladol a datblygu enw da byd-eang Cymru fel cenedl fwyd, Brexit neu beidio.

 

Polisi Pysgodfeydd y Dyfodol

 

90.    Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu polisi pysgodfeydd y dyfodol mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid, wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd yn unol â'n hymrwymiad ‘Ffyniant i Bawb’. Cynhaliais ymgynghoriad Brexit a’n Moroedd dros yr haf, y cam cyntaf mewn sgwrs hirach am ddyfodol diwydiant pysgota'r genedl. Ar hyn o bryd, nid oes cyllideb benodol ar gyfer datblygu polisi pysgodfeydd y dyfodol, a bydd unrhyw gostau yn dod o'r gyllideb forol a physgodfeydd.

 

91.    Methodd Bil Pysgodfeydd y DU oherwydd addoedi. Ar ôl cael ei gynnwys yn Araith y Frenhines, rydym yn disgwyl i Fil y DU gael ei gyflwyno, ond yn sgil cyhoeddi etholiad cyffredinol yn y DU, nid yw’r amserlen ar gyfer hyn yn glir. Byddwn yn ystyried goblygiadau cyllidebol Bil Pysgodfeydd y DU unwaith y bydd drafft wedi'i rannu.

 

Corff Llywodraethu Amgylcheddol newydd

 

92.    Cynhaliwyd ein hymgynghoriad ar Egwyddorion a Threfniadau Llywodraethu Amgylcheddol ar ôl Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd rhwng 18 Mawrth a 9 Mehefin 2019 a chyhoeddwyd adroddiad ar y crynodeb o ymatebion ar 13 Medi. Yn fy natganiad ysgrifenedig ar 17 Gorffennaf, datganais fy mwriad i sefydlu grŵp gorchwyl ar gyfer rhanddeiliaid llywodraethu amgylcheddol er mwyn helpu i gynllunio trefniadau llywodraethu amgylcheddol ar ôl Brexit, fel y trafodwyd yn y ddogfen ymgynghori.

 

93.    Mae’r grŵp wrthi’n ystyried mathau gwahanol o fodelau, gan gynnwys y ffurf a'r swyddogaethau, a fyddai'n darparu system lywodraethu effeithiol, gymesur a phriodol i Gymru. Gan y bydd y grŵp gorchwyl hwn yn cyflwyno adroddiad ar ei argymhellion yn gynnar yn 2020, nid oes unrhyw fath pendant o fodel llywodraethu amgylcheddol wedi'i argymell eto.

 

94.    Mae'r maes gwaith hwn yn un cymhleth ac angen ei ddadansoddi'n fanwl er mwyn sicrhau bod unrhyw gynigion a gyflwynir yn addas ar gyfer Cymru. Fel y cyfryw, pan fydd model a ffefrir wedi'i nodi, byddwn yn cynnal arfarniad trylwyr o’r opsiynau, gan gynnwys goblygiadau ariannol, a fydd yn cynnwys asesiad o gostau cysylltiedig yr argymhellion a'r mathau gwahanol o opsiynau a gyflwynir gan y Tasglu.


95.    Os bydd cytundeb ymadael rhwng y DU a’r UE, bydd strwythurau llywodraethu presennol yr UE yn dal ar waith yn ystod unrhyw gyfnod pontio ac ni fydd angen i ni sefydlu unrhyw fesurau llywodraethu dros dro. Ond oherwydd yr ansicrwydd parhaus, y peth doethaf yw paratoi ar gyfer senario gadael hebgytundeb.

 

96.    Os bydd rhaid gweithredu’r mesurau dros dro, byddwn yn darparu canllawiau i ddinasyddion i'w helpu o ran beth ellir cwyno amdano, ac wrth bwy. Bydd hyn yn helpu i fynd i'r afael ag unrhyw achosion posibl o ddyblygu cwynion ac felly’n lleihau costau posib i gyrff cyhoeddus eraill. Mae gwaith pellach yn parhau ar y mesurau dros dro ychwanegol sy’n ofynnol, gan gynnwys costau ac amserlenni. Byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth maes o law, pe bai sefyllfa ‘gadael heb gytundeb’ yn debygol.

 

97.    Mae Brexit yn parhau i gyflwyno heriau mawr i ni, yn enwedig o ran yr angen am adnoddau i gyflawni'r holl doreth o bolisïau ac effeithiau gweithredol Brexit.  Mae pob math o sefyllfaoedd posibl ar gyfer Brexit yn y dyfodol, pob un â goblygiadau gwahanol i staff Llywodraeth Cymru. Rydym wedi datblygu dulliau o reoli'r heriau gwahanol hyn ac rydym yn parhau i'w haddasu. Hyd yma, mae fy adran wedi cyflogi dros 80 o staff ar benodiadau tymor penodol i'n helpu i ymdopi â’r cynnydd yn ein llwyth gwaith, ac rydym yn ystyried sut byddwn yn parhau i elwa ar eu cyfraniad. Mae'r Ysgrifennydd Parhaol a'r Bwrdd Gweithredol yn parhau i asesu lefelau staffio ar draws Llywodraeth Cymru.

 

 

Deddfwriaeth

 

Bil Amgylchedd y DU

 

98.    Yng ngoleuni etholiad cyffredinol y DU ac atal Senedd San Steffan, mae Bil Amgylchedd y DU wedi’i roi o’r neilltu. Cyn hynny, roedd darpariaethau llywodraethu amgylcheddol y Bil yn ymwneud â Lloegr a meysydd a gadwyd yn ôl, gan fod y dull wedi’i gynllunio i fynd i'r afael â'r bylchau penodol a oedd yn gymwys yn Lloegr. O’r herwydd, nid oedd y Bil yn achosi unrhyw gostau gweithredu i Gymru.

 

99.    Rydym yn aros am ganlyniad yr etholiad cyffredinol a bydd angen ailasesu Bil y DU ar ôl iddo gael ei ailgyflwyno er mwyn penderfynu ai’r un Bil ydyw i bob pwrpas. Fodd bynnag, roeddem yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill ar sut gallem gydweithio mewn sawl maes er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw fylchau a allai godi ar lefel y DU gyfan. Gan mai gwaith ar y gweill oedd hwn, nid oedd unrhyw gostau gweithredu ariannol i'w hystyried ar hyn o bryd. Mewn unrhyw Fil a gyflwynir, bydd angen sicrhau nad yw’r cynnydd a wnaed i sicrhau bod Bil y DU yn parchu'r setliad datganoli yn cael ei golli.

 

100.                   Cafodd pwerau i Weinidogion Cymru eu cymryd yn y Bil mewn perthynas â meysydd polisi megis gwastraff, dŵr, llifogydd, sbwriel, cemegau, eitemau untro, ansawdd aer, a chyfrifoldeb estynedig


cynhyrchwyr. Os caiff y Bil ei ailgyflwyno, bydd angen i ni ystyried y goblygiadau'r pwerau hyn. Bydd asesiadau effaith sy'n cyd-fynd ag unrhyw is-ddeddfwriaeth ddilynol yn nodi unrhyw oblygiadau ariannol ar gyfer y pwerau hyn.

 

101.                   Mae yna feysydd sydd angen gweithredu arnynt tra byddwn yn parhau i fod yn aelod o’r UE, fel sicrhau ein bod yn cydymffurfio â Chyfarwyddeb Plastigau Untro yr UE a fabwysiadwyd yn ddiweddar. Os na fydd pwerau o’r fath yn neddfwriaeth y DU, byddem mewn perygl o beidio â chydymffurfio â deddfwriaeth yr UE tra byddwn yn parhau i fod yn aelod- wladwriaeth. Mae Bil y DU yn cynnwys rhai meysydd nad oes gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru allu unigol i ddeddfu arnynt, felly mae Bil y DU yn cynnig cyfrwng deddfwriaethol ymarferol.

 

 

Meysydd penodol o ddiddordeb i'r Pwyllgor

 

Ansawdd aer, gan gynnwys y nifer sy'n manteisio ar y Gronfa Ansawdd Aer, gweithredu'r Cynllun Aer Glân a sefydlu Canolfan Monitro ac Asesu Ansawdd Aer Cymru

 

102.                   Bydd y Cynllun Aer Glân yn cynnwys mesurau i fynd i'r afael â chyfraniad diwydiant mewn sectorau allweddol ledled Cymru at ansawdd aer gwael, gan ganolbwyntio ar yr ardaloedd hynny sy’n wynebu heriau sylweddol. Mae’r Gronfa Ansawdd Aer yn cyfeirio at ein £20 miliwn o gyllid canlyniadol sy’n cael ei ddefnyddio i gefnogi'r broses o weithredu mesurau awdurdodau lleol i sicrhau cydymffurfiaeth â gwerthoedd terfyn nitrogen ocsid (NO2). Yn y gyllideb ddrafft hon, ac o ganlyniad i'r cyllid gan y DU, rwyf wedi dyrannu cronfa gyfalaf ychwanegol o £14.3 miliwn a ddefnyddir yn bennaf i roi cymorth, arweiniad a chyllid parhaus er mwyn i Gyngor Caerdydd (a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili) gymryd camau i sicrhau cydymffurfiaeth yn yr amser byrraf posibl.

 

103.                   Ar hyn o bryd, ni wyddom beth yw'r costau sy'n gysylltiedig â gweithredu unrhyw gamau newydd sy'n deillio o'r Cynllun Aer Glân. Rydym yn bwriadu ymgynghori’n fuan ar y Cynllun Aer Glân a disgwylir i’r ymgynghoriad ddod i ben ddechrau 2020. Bydd penderfyniadau cyllidebol yn cael eu gwneud wedi’r ymgynghoriad. Mae'r cynigion ar gyfer Canolfan Monitro ac Asesu Ansawdd Aer Cymru yn cyfeirio at waith sy'n mynd rhagddo i ddatblygu ffordd well o gasglu tystiolaeth yma yng Nghymru. Nod y ffrwd waith hon yw darparu adnodd i lywio a sbarduno camau gweithredu cydgysylltiedig i leihau llygredd a gludir yn yr awyr a sicrhau'r cyfleoedd gorau posib i wella iechyd a'r amgylchedd. Rydym wrthi’n ystyried yr opsiynau ar gyfer strwythur sefydliadol ac mae gwaith paratoadol i lywio'r prosiect hwn ar y gweill. Ni wyddom faint yn union o arian a gaiff ei wario ar y Ganolfan yn ystod y cyfnod ariannu sy’n dod ar hyn o bryd, ond go brin y caiff arian ei wario tan ar ôl 2020-21.

 

104.                   Mae adolygiad diweddar a gynhaliwyd gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru (yn enwedig gwaith arbenigwyr cerbydau allyriadau


isel iawn yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni), wedi tynnu sylw at effaith sylweddol cerbydau casglu sbwriel yn y sector cyhoeddus

 

105.                   Nod yr adolygiad oedd canfod allyriadau carbon a defnydd ynni cerbydau’r sector cyhoeddus yng Ngwent a nodi'r cyfleoedd i ddefnyddio cerbydau allyriadau isel iawn. Eu cynnig uchelgeisiol yw cynyddu cyfran y cerbydau allyriadau isel iawn i 100% erbyn 2030, os yw hynny’n ymarferol.

 

 

Gweithredu strategaeth tlodi tanwydd newydd Llywodraeth Cymru

 

106.                   Er mwyn hwyluso'r broses o ystyried argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru yn ei hadolygiad o dlodi tanwydd a gyhoeddwyd ym mis Hydref, ac osgoi ymgynghoriad yn ystod etholiad cyffredinol y DU, disgwyliaf i'r ymgynghoriad ar gynllun newydd fynd i'r afael â thlodi tanwydd ddechrau ym mis Ionawr.

 

107.                   Prif ddiben y cynllun i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yw pennu'r cyfeiriad strategol hyd at 2035. Ategir hyn gan gynlluniau cyflawni neu weithgarwch a gaiff eu costio a'u graddio yn unol â’r cyllidebau a’r cyfleoedd sydd ar gael ar y pryd. Mae'r ddogfen ymgynghori ar y cynllun drafft i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yn cynnig camau gweithredu newydd, sy'n cyfrannu at amcanion ehangach Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi, atal salwch y gellir ei osgoi a marwolaeth gynamserol o fyw mewn cartref oer, a datgarboneiddio.

 

108.                   Bydd Cynlluniau Nyth ac Arbed y Rhaglen Cartrefi Clyd yn parhau i ddarparu cyngor a gwelliannau o ran effeithlonrwydd ynni cartrefi yn 2020/21.

 

 

Gweithredu argymhellion yr adroddiad "Cartrefi Gwell, Cymru Well, Byd Gwell”

 

109.                   Cartrefi Gwell, Cymru Well, Byd Gwell. Roedd yr adroddiad annibynnol hwn a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i raglen 30 mlynedd i leihau allyriadau carbon yng nghartrefi Cymru.

 

110.                   Gan dderbyn yr argymhelliad mewn egwyddor, mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn gweithio ar gynllun datgarboneiddio tai ar sail yr argymhellion hyn.

 

 

Rhaglen Dileu TB Gwartheg (gan gynnwys y cynllun cyflenwi, profion ac iawndal)

 

111.                   Soniais eisoes y byddai'r system bresennol o dalu iawndal TB yn cael ei hadolygu'n rheolaidd. Bydd yr adolygiad yn ystyried y ffordd fwyaf teg o


dalu iawndal yn sgil pwysau parhaus ar y gyllideb a cholli cyllid yr UE ar ôl ymadael âr UE. Rydym wrthi'n cynnal trafodaethau â Llywodraeth y DU i sicrhau y bydd yr arian hwn yn parhau ar ôl ymadael â'r UE. Felly, rwyf wedi dyrannu £1.5 miliwn i leihau'r gostyngiad yn yr incwm a ragwelir gan yr UE (ta waeth am Brexit) a £0.75 miliwn tuag at bwysau cynyddol ar fy nghyllideb iawndal difa da byw.

 

112.                   Bydd unrhyw newid i drefniadau iawndal TB yn cael ei gynllunio i annog arferion gorau, datgymell diffyg cydymffurfiaeth a darparu system iawndal deg a chymesur. Cyn i unrhyw newid i'r system iawndal TB gael ei weithredu, cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus a bydd yr holl awgrymiadau a sylwadau'n cael eu hystyried.

 

113.                   Mae'r Cynllun Cyflawni, a lansiwyd yn 2017, yn rhan o’r Rhaglen Dileu TB Gwartheg ac yn nodi'r gwelliannau manwl i'w cyflwyno yn y tymor byr i’r tymor canolig. Mae'r Cynllun Cyflawni yn ddogfen fyw a gaiff ei diweddaru fel bo’r angen. Mae’n caniatáu mwy o hyblygrwydd ac yn galluogi'r rhaglen i addasu i'r sefyllfa gyfnewidiol ar lawr gwlad. Mae'r ffordd hyblyg hon o weithio yn fodd i ni ymateb i unrhyw wybodaeth newydd sy’n datblygu am y clefyd ac yn ein galluogi i gynnwys gwelliannau’n gyflym i adlewyrchu'r datblygiadau gwyddonol ac addysgol diweddaraf.

 

Gweithredu’r Strategaeth Coetiroedd i Gymru

 

114.                   Mae ein strategaeth Coetiroedd i Gymru yn nodi'r ystod amrywiol o fuddion a gynigir gan goetiroedd conwydd a llydanddail tuag at lawer o ganlyniadau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd. Er mwyn ymateb i'n datganiad o sefyllfa argyfwng newid yn yr hinsawdd, mae angen cynyddu'r gorchudd coed yma yng Nghymru ar fyrder. Mae’n ffordd allweddol o liniaru newid hinsawdd drwy ddal a storio carbon. Mae angen gwneud hyn mewn cydbwysedd ag adnoddau naturiol pwysig eraill megis cynefinoedd, tirwedd ac ansawdd dŵr er mwyn manteisio i'r eithaf ar fanteision economaidd ac amgylcheddol ehangu ein coetiroedd yng Nghymru. Mae coetiroedd iach ac amrywiol hefyd yn galw am ddulliau da o reoli coetiroedd, sy'n parhau’n elfen graidd annatod o'n strategaeth Coetiroedd i Gymru.

 

115.                   Bydd yr ymrwymiad ym maniffesto'r Prif Weinidog ar gyfer Rhaglen Coedwig Genedlaethol yn helpu i gefnogi nodau ein strategaeth Coetiroedd i Gymru. Mae hyn yn cynnwys cyflawni blaenoriaethau allweddol sy'n ymwneud â bioamrywiaeth, coedwigaeth fasnachol, a phren yn y diwydiant adeiladu, cydlyniant ac adfywio cymunedol, gan ategu ein hymrwymiadau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae coed a choetiroedd yn rhan o'n treftadaeth naturiol fyw ac mae'r gydnabyddiaeth o’u pwysigrwydd yn cynyddu'n gyson. O fewn tirlun gwleidyddol newidiol Brexit, mae angen parhau i gefnogi'r gwaith o gyflawni manteision niferus a chydweithredol ar gyfer coedwigoedd a choetiroedd gwydn a deinamig yma yng Nghymru.


Rheoli Parthau Perygl Nitradau

 

116.                   Cafodd contract ar gyfer darparu cyngor amaethyddol ac amgylcheddol, gyda chyllideb flynyddol o £0.25 miliwn, ei ddyfarnu am dair blynedd o 1 Hydref 2018. Mae’r contract hwn yn cynnwys darparu llinell gymorth i ffermwyr o fewn Parthau Perygl Nitradau (NVZs) dynodedig fel y gallant gael cyngor a chanllawiau ar y gofynion rheoleiddiol. Defnyddir y contract hefyd i adolygu ac asesu effeithiolrwydd y Rhaglen Weithredu NVZ a rhoi cyngor ar fesurau i ymdrin â llygredd amaethyddol.

 

117.                   Mae’r llinell gymorth NVZ yn cynorthwyo ffermwyr mewn Parthau Perygl Nitradau i gydymffurfio â’r rheoliadau ac, felly, cyflawni amcanion y dull gweithredu o leihau llygredd nitrad mewn cyrsiau dŵr. Mae’n ddyletswydd statudol ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei dull o weithredu’r Gyfarwyddeb Nitradau bob 4 blynedd, a defnyddir y gyllideb hon i gynnal adolygiadau o’r fath. Rydym hefyd yn defnyddio’r un gyllideb i lywio polisi ar faterion llygredd amaethyddol ledled Cymru, mewn meysydd cysylltiedig, fel gweithredu’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr a’r Gyfarwyddeb Terfynau Uchaf Allyriadau Cenedlaethol. Mae cyllidebau BEL 2865 a 2864 wedi'u cyfuno er mwyn cysoni cyllidebau a chostau'r gwasanaethau uchod yn well.

 

Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol, gan gynnwys y nifer sy'n manteisio ar y Rhaglen Rheoli Risgiau Arfordirol.

 

118.                   Mae rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd yn canolbwyntio ar leihau'r perygl i fywyd. Mae'n gwneud hynny drwy atal achosion o lifogydd ac erydu a fyddai fel arall yn achosi difrod i gartrefi a busnesau. Rydym wedi gwella'r ffordd rydym yn blaenoriaethu cynlluniau lliniaru er mwyn helpu i dargedu cyllid tuag at brosiectau yn yr ardaloedd â'r risg fwyaf sy'n dangos y gwariant ataliol mwyaf effeithiol.

 

119.                   Mae ein strategaeth genedlaethol ddrafft yn nodi sut rydym yn bwriadu rheoli'r risgiau sy'n deillio o lifogydd ac erydu arfordirol ledled Cymru, ac mae hefyd yn amlygu'r angen am gydweithredu agosach a gweithredu yn y dalgylch ehangach er mwyn lleihau risg.

 

120.                   Daeth yr ymgynghoriad ar y strategaeth genedlaethol ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol i ben ar 16 Medi. Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o ymatebion yn ddiweddarach eleni, gyda'r bwriad o gyhoeddi ein strategaeth newydd yn ddiweddarach yn 2020. Mae'r ddogfen eisoes wedi elwa ar dros flwyddyn o ymgynghori, adborth a gweithdai.

 

121.                   Yng Nghymru, rydym yn parhau i wario mwy y pen na Lloegr ar reoli perygl llifogydd ac arfordiroedd. Dros y 5 mlynedd diwethaf, rydym wedi gwario cyfartaledd o £17.19 y pen yng Nghymru o gymharu â £14.05 y pen yn Lloegr dros yr un cyfnod. Rydym yn parhau i flaenoriaethu ein gwaith rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd gyda rhaglen iach o weithgarwch ledled Cymru drwy awdurdodau lleol a CNC. Caiff dros £350


miliwn (cyfanswm cyfalaf a refeniw) ei wario ar reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn ystod tymor y Cynulliad hwn.

 

122.                   Mae'r Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol wedi'i sefydlu'n llawn erbyn hyn. Mae'n gorff cynghori, sy'n rhoi cyngor ar bob agwedd ar reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru, ac mae'n cynorthwyo Gweinidogion Cymru a holl awdurdodau rheoli risg Cymru. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Pwyllgor ar 4 Mehefin yng Nghaerdydd, ac ail gyfarfod yn Llandudno ar 10 Medi

 

123.                   Mae cynlluniau cyntaf y Rhaglen Rheoli Risgiau Arfordirol yn dechrau cael eu hadeiladu eleni. Gwnaed y taliadau refeniw cyfatebol cyntaf i gynorthwyo awdurdodau lleol ag ad-daliadau benthyca arloesol yn ystod 2019-20. Bydd llawer mwy o gynlluniau yn dechrau yn ystod 2020- 21, ac mae cyllid refeniw o £2.6 miliwn ar gael i gefnogi taliadau i'r cynlluniau hyn. Mae 24 o gynlluniau yn rhan o’r Rhaglen Rheoli Risgiau Arfordirol ar hyn o bryd, sy'n cael y dyraniad llawn o £150 miliwn. Yn amodol ar gwblhau’r cyfan, byddant yn lleihau'r risg i dros 18,000 o eiddo.

 

 

Y drefn drwyddedu ar gyfer arddangosfeydd anifeiliaid

 

124.                   Bydd Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Arddangosfeydd Anifeiliaid) (Cymru) 2020 yn darparu cynllun trwyddedu ar gyfer rhai arddangosfeydd anifeiliaid. Bydd rhwymedigaeth ariannol gyfyngedig ar Lywodraeth Cymru i weithredu'r cynllun trwyddedu hwn – rhagwelwn y byddwn yn gallu gwneud hyn o fewn ein hadnoddau cyfredol.

 

125.                   Awdurdodau lleol fydd yn gyfrifol am orfodi'r rheoliadau. O dan adran 30 o Ddeddf 2006, gall awdurdodau lleol erlyn rhywun am unrhyw drosedd o dan y Ddeddf. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn rhoi unrhyw gyllid i weithredu neu redeg y cynllun trwyddedu. Nid yw arddangosfeydd anifeiliaid yng Nghymru wedi’u trwyddedu ar hyn o bryd, a dim ond rhai fydd yn cael eu cofrestru dan Ddeddf Anifeiliaid Perfformio (Rheoleiddio) 1925, felly bydd mwy o angen i gymryd camau gorfodi (arolygiadau rheolaidd fel sy'n ofynnol yn y ddeddfwriaeth, yn y man lleiaf).

 

126.                   Bydd yn ofynnol penodi un neu fwy o arolygwyr â chymwysterau addas i archwilio unrhyw safle ac offer teithio sy'n gysylltiedig â'r gweithgaredd trwyddadwy i benderfynu a ddylid rhoi, atal, dirymu neu adnewyddu trwydded. Gallai hyn arwain at gynnydd mewn adnoddau ariannol a staff. Fodd bynnag, bydd awdurdodau lleol yn gallu codi ffi am roi trwydded er mwyn talu costau disgwyliedig cofrestru, arolygu a gorfodi (rheoliad 14).

 

 

Gwahardd gwerthu cŵn a chathod bach gan drydydd parti.

 

127.                   Lansiwyd ymgynghoriad cyhoeddus deuddeg wythnos ar wahardd gwerthu cŵn a chathod bach gan drydydd parti ar 19 Chwefror 2019, a daeth i ben ar 17 Mai 2019. Cyhoeddwyd yr ymgynghoriad ar wefan


Llywodraeth Cymru a chafodd gyhoeddusrwydd mewn cylchlythyrau ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Bu’n edrych ar dystiolaeth i weld pryd dylai’r Llywodraeth ymyrryd mewn safleoedd bridio cŵn ar raddfa fawr a mynd i'r afael â phryderon lles anifeiliaid yn y man gwerthu. Cafwyd cefnogaeth eang iawn dros wahardd gwerthu cŵn a chathod bach gan drydydd parti. Fodd bynnag, dim ond un o'r camau angenrheidiol i wella lles cŵn a chathod mewn safleoedd magu yw hwn.

 

128.                   Mewn perthynas â datblygu polisi Gweinidogion Cymru ar werthu cŵn a chathod bach gan drydydd parti, ar ôl gwerthuso'r dystiolaeth o blaid ac yn erbyn y gosodiad bod gwerthiannau trydydd parti o gŵn a chathod bach yn achosi lles gwael, bydd swyddogion yn ystyried amrywiaeth o opsiynau pe bai'r dystiolaeth yn cefnogi cymryd camau i wahardd neu reoleiddio gwerthiant gan drydydd parti o gŵn a chathod bach. Bydd pob opsiwn ei werthuso yn erbyn yr opsiwn 'gwneud dim' yn ogystal â'r opsiwn o gymryd camau gwirfoddol gan fridwyr a gwerthwyr trydydd parti.

 

 

Mentrau i leihau llygredd plastig, gan gynnwys cynllun dychwelyd ernes, a datblygu cynllun cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr (EPR)

 

129.                   Er nad yw hyn yn rhan o gylch gwaith fy mhortffolio (mae’n rhan o bortffolio'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol), mae Llywodraeth Cymru yn croesawu'r camau uchelgeisiol sy’n cael eu cymryd yng Nghyfarwyddeb Plastig Untro yr Undeb Ewropeaidd, ac mae wedi ymrwymo i weithredu'r ystod eang o fesurau sydd â'r nod o leihau effeithiau sbwriel plastig ar yr amgylchedd. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i gyflwyno rheoliadau a fydd naill ai’n gwahardd neu’n cyfyngu ar nifer o blastigau untro cyffredin sy'n cael eu taflu fel sbwriel yma yng Nghymru.

 

130.                   Mae defnyddio cynllun Cyfrifoldeb Estynedig i Gynhyrchwyr (EPR) ar gyfer pecynnu yn arf pwysig i gyflawni'r egwyddor mai'r "llygrwr sy'n talu", cyflawni targedau adfer ac ailgylchu ac o ran darparu incwm er mwyn helpu i reoli gwastraff. Mae Pecyn Economi Gylchol y Comisiwn Ewropeaidd yn cynnwys cynigion diwygiedig ar gyfer cyflwyno amodau gweithredu gofynnol ar gyfer cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr. Mae'n cynnig y dylai cyfraniadau ariannol a delir gan gynhyrchwyr i gydymffurfio â'u rhwymedigaethau cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr gwmpasu holl gostau rheoli gwastraff ar gyfer y cynhyrchion sy’n cael eu rhoi ar y farchnad ganddynt, gan gynnwys holl gostau casglu ar wahân a gwaith didoli a thrin.

 

Lesley Griffiths

Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Atodiad

 

Cyllideb ddrafft 2020-2021

 

Yn y linc isod, ceir tablau ar Linell Wariant y Gyllideb Ddrafft. 

 

I weld y gyllideb ddrafft, cliciwch ar Llinellau Gwariant yn y Gyllideb wedi’u Hailddatgan sy’n agor mewn ffeil Excel, ac yna cliciwch ar y tab BEL Table.